Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
23 Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11187
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda'r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.32
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Covid-19: Flwyddyn yn Ddiweddarach
Dechreuodd yr eitem am 14.57
4 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.47
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol
Dechreuodd yr eitem am 16.37
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru – Cymru wrth-hiliol
Dechreuodd yr eitem am 17.13
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7660 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
11 |
1 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 18.10
NNDM7686 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 dros dro i ganiatáu i NNDM7684 a NNDM7685 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 8-11 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
8 Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.11
NNDM7684 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7665 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
2 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NNDM7685 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
4 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7662 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
2 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
12 Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7661 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
3 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
13 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.41
NDM7658 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14 Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.54
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021
Dechreuodd yr eitem am 19.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7656 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
9 |
1 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
16 Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-21
Dechreuodd yr eitem am 19.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7659 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Setliad Terfynol – Cynghorau) Diwygiedig a’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) Diwygiedig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
8 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
17 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.18 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.22
Daeth y cyfarfod i ben am 19.29
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 24 Mawrth 2021